Gallwch chi ddweud wrthym am eich symptomau ac ansawdd eich bywyd o gartref. Ein helpu i ddarparu gwell gofal trwy fesur yr hyn sydd bwysicaf i chi.
Bydd monitro’ch symptomau gartref yn rheolaidd trwy ffurflenni yn ein helpu i ddeall eich iechyd yn well a’r hyn sydd bwysicaf i chi.
Gall eich ymatebion i’r ffurflenni hyn eich helpu chi a’ch tîm:
Gwnewch yn siwr eich bod yn darparu rhif ffôn symudol, enw llawn, côd post a dyddiad geni fel gallwch fewngofnodi;
Fe wnawn anfon neges destun neu ebost pan fo angen i chi gwblhau Asesiad Digidol;
Cliciwch ar ddolen nhs.my a mewnbynnu eich cyfenw, dyddiad geni a chôd post i fewngofnodi
Llenwch y ffurflen mor gywir ac mor onest ag y gallwch, fel gall eich tîm clinigol ddeall eich sefyllfa
Sicrhewch eich bod yn cyflwyno’r ffurflen ar y diwedd fel y gall eich tîm clinigol weld eich atebion.
Gallwch weld cofnod o’ch asesiad gorffenedig ar y porth claf, trwy fynd i ‘Online Care’ a ‘View Assessment’
Mae hyd y ffurflen yn newid o arbenigedd i arbenigedd. Dylai gymryd rhwng 5-15 munud i’w gwblhau.
Rydym yn ehangu'r defnydd o Asesiadau Digidol ar draws nifer o wahanol glinigau yn y bwrdd iechyd.